Darlith Gyhoeddus | Dr David Sprake, Public Lecture | Wrexham University
Cultural Experiences
English below
Dadlennu Newid Hinsawdd: Gwahanu’r Gwir a’r Gau ar gyfer Gwadwyr ac Amheuwyr
Dr David Sprake
Uwch-ddarlithydd mewn Peirianneg
Mae rhai pobl yn dal i honni mai rhyw fath o dwyll neu amrywiad naturiol yw newid hinsawdd. Beth yw’r gwirionedd? Ymunwch â ni i wrando ar ddarlith hollbwysig gan Dr David Sprake, a fydd yn trafod pam y mae llywodraethau a busnesau wedi bod mor araf yn mynd i’r afael â newid hinsawdd. Gan ddefnyddio’i ymchwil a’i brofiad addysgu sylweddol, bydd Dr Sprake yn dadansoddi’r grymoedd naturiol sy’n siapio ein hinsawdd, bydd yn olrhain tarddiad newidiadau hinsoddol y gorffennol a bydd yn asesu a yw newidiadau cyfredol yn cael eu sbarduno gan weithgareddau pobl.
Bydd Dr Sprake yn cyflwyno archwiliad clir o newid hinsawdd, a fydd yn seiliedig ar dystiolaeth, gan drafod a gwrthbrofi damcaniaethau sy’n gwadu newid hinsawdd trwy gyflwyno data cadarn. Bydd y ddarlith hon yn cynnig cyfle gwerthfawr i ddeall yr wyddoniaeth, herio camdybiaethau a chydnabod yr angen taer am fesurau rhagweithiol i ddiogelu ecosystemau, economïau a dyfodol ein planed.
Peidiwch â cholli’r cyfle hwn i ennill gwybodaeth, gofyn cwestiynau a chyfrannu at atebion ystyrlon.
Estynnir croeso i bawb dros 14 oed sy’n ymddiddori mewn ymchwil, gwyddoniaeth, yr amgylchedd a newid hinsawdd.
AM Y SIARADWR
Mae David wedi treulio 20 mlynedd a mwy yn ystyried, yn archwilio ac yn addysgu newid hinsawdd, ynni adnewyddadwy ac allyriadau carbon.
David yw arweinydd y radd ynni adnewyddadwy a pheirianneg gynaliadwy a’r radd-brentisiaeth carbon isel. Yn y gorffennol, enillodd y wobr ar gyfer y Darlithydd Gorau a’r wobr Hyrwyddwr Cynaliadwyedd, ar sail pleidleisiau gan fyfyrwyr. Mae hefyd yn un o Hyrwyddwyr Gwyrdd y Brifysgol.
Canolbwyntiodd gradd PhD David ar y modd y gellir adeiladu neu ôl-osod ystadau tai mawr er mwyn sicrhau eu bod yn niwtral o ran carbon, trwy ddefnyddio ynni adnewyddadwy, trwy storio ynni a thrwy ddefnyddio gridiau clyfar. Mae’n beiriannydd ynni siartredig ac mae ganddo doreth o brofiad yn y diwydiant. Mae’n defnyddio’r profiad hwnnw mewn partneriaethau cydweithredol, megis asesu cyfleoedd ar gyfer ynni adnewyddadwy gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a datblygu offer profi newydd ac arloesol ar gyfer busnesau lleol.
“Fe allen ni fod wedi datrys newid hinsawdd 30 mlynedd yn ôl. Mae camwybodaeth wedi cyfrannu at ddal y ddynoliaeth yn ôl rhag rhoi sylw difrifol i’r mater, a’i ddatrys.”
Cysylltwch â researchoffice@wrexham.ac.uk fydd yn eich helpu gydag unrhyw ymholiadau.
_ ______________________________________________________________________________________________________
Climate Change Exposed: Separating Fact from Fiction for Deniers and Sceptics
Dr David Sprake
Senior Lecturer in Engineering
Climate change is still dismissed by some as a hoax or mere natural variability. What is the truth? Join us for a pivotal lecture with Dr David Sprake, who will explore why governments and businesses have been slow to address climate change. Drawing from his extensive research and teaching, Dr Sprake will analyse the natural forces shaping our climate, trace the origins of past climate shifts, and assess whether current changes are driven by human activity.
Dr Sprake will provide a clear, evidence-based examination of climate change, addressing and refuting climate denial theories with solid data. This lecture offers a valuable opportunity to gain an accurate understanding of the science, challenge misconceptions, and recognise the urgent need for proactive measures to safeguard our planet's ecosystems, economies, and future.
Don't miss this opportunity to get informed, ask questions, and contribute to meaningful solutions.
Anyone 14 years + years of age with an interest in research, science, the environment and climate change is welcome to attend.
ABOUT THE SPEAKER
David has dedicated over 20 years to contemplating, researching, and teaching about climate change, renewable energy, and carbon emissions.
David is programme leader for the renewable and sustainable engineering degree and the low carbon degree apprenticeship. He has previously won Best Lecturer and Sustainability champion, as voted for by students. He is also a University Green champion.
David’s PhD focused on how large housing estates can be built or retrofitted to become carbon neutral with the use of renewable energy, energy storage, and smart grids. He is a chartered energy engineer with a wealth of industry experience, which he uses in collaborative partnerships such as assessing renewable energy opportunities with the National Trust and developing innovative new testing equipment for local businesses.
“We could have fixed climate change 30 years ago. Misinformation has played a part in holding up humanity taking it seriously and fixing it.”
Please contact researchoffice@wrexham.ac.uk with any queries.
Information Source: Wrexham University Research | eventbrite